Seiri Maen y Dyfodol yn Sir Benfro
Ym mis Mawrth a mis Mai, ymgymerodd 19 o bobl ifanc a oedd yn dysgu adeiladu yng Ngholeg Sir Benfro â chyrsiau deg diwrnod fel Cyflwyniad i Waith Maen Traddodiadol.
Cafodd y cyrsiau eu hariannu gan Ymddiriedolaeth Muriau Tref Penfro fel rhan o’u prosiect i ddatblygu cynllun rheoli tymor hir ar gyfer adfer muriau canoloesol y dref, a’u hariannu gan Lywodraeth y DU drwy gronfa Adfywio Cymunedol y DU, sy’n cael ei rheoli gan Gyngor Sir Penfro.
Dyluniwyd a chynlluniwyd y cwricwlwm gan Helena Burke o Ganolfan Tywi yn Llandeilo a’r cyrsiau dan arweiniad Oliver Coe o Coe Stone yn Hwlffordd. Cafwyd cyngor ar yr hyfforddiant gan Helen Murray o Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu.
Cyflwynwyd Tystysgrifau i’r dysgwyr i gofnodi eu gwaith caled a’u cyflawniadau. Cynhaliwyd wythnos gyntaf y cwrs yn y Coleg i ddysgu theori a gwaith ymarferol yn y gweithdai. Cynhaliwyd yr ail wythnos ar y safle yn
Sir Benfro yn gweithio ar un o furiau bwrdais y dref.
Dywedodd James Roach-John, Tiwtor y Coleg a arweiniodd y myfyrwyr ar y cwrs:
“Mae’r dysgwyr wedi cydweithio’n dda fel tîm ac wedi mwynhau cael dod o’r coleg i wneud gwaith go iawn ar y safle. Mae wedi bod yn dda iddyn nhw weld y gwaith â’u llygaid eu hunain a gweld y cysylltiadau â hanes eu cymuned hefyd.
O safbwynt y Coleg, rydyn ni’n credu bod lle gwych i wneud gwaith yn y dyfodol, ac rydyn ni’n diolch i Ymddiriedolaeth Muriau Tref Penfro am fod mor gadarnhaol a chefnogol yn rhoi’r cyfle hwn i ni. Mae wedi bod yn brosiect anhygoel.”
Bu grŵp arall o bobl ifanc dalentog o brosiect ieuenctid Tanyard, Postcards & Podcasts, ym Mhenfro yn ffilmio’r cyrsiau hyfforddi ac maent wedi gwneud rhaglen ddogfen gywrain yn ei chylch, gan gyfweld y dysgwyr a’r hyfforddwyr wrth i’r cyrsiau fynd rhagddynt. Gellir gweld y ffilm ar wefan Ymddiriedolaeth Muriau Tref Penfro.
Dywedodd Elizabeth Gossage, Cadeirydd Ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Muriau Tref Penfro:
“Rydyn ni wedi bod mor falch o weld hyn i gyd yn dod at ei gilydd o’r diwedd. Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda Chanolfan Tywi, y Coleg a CITB ers rhai blynyddoedd i ddatblygu’r bartneriaeth hon a dechrau darparu’r hyfforddiant fel hyn. Mae hyfforddi seiri maen y dyfodol yn ganolog i gynaliadwyedd ein gwaith, ac i ragolygon cyflogaeth tymor hir y bobl ifanc i ddysgu’r sgiliau hyn. Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddatblygu cyfleoedd iddyn nhw wneud profiad gwaith gyda seiri maen lleol a darparu prentisiaethau.”
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth