Y dalent ddisgleiriaf ym maes adeiladu: Cyhoeddi cystadleuwyr Rownd Derfynol Genedlaethol SkillBuild 2024
Mae’r hyfforddeion a’r prentisiaid adeiladu gorau o bob rhan o’r DU wedi’u cyhoeddi ar ôl i’r nifer uchaf erioed o gystadleuwyr gymryd rhan yn Rhagbrofion Rhanbarthol SkillBuild 2024 eleni.
Mae SkillBuild, a ddarperir gan Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB), yn arddangosfa fawreddog ar gyfer talent adeiladu fel y gystadleuaeth sgiliau diwydiant fwyaf a hiraf yn y DU.
Denodd y flwyddyn hon fwy o gystadleuwyr nag erioed, gyda dros 1,000 o fyfyrwyr yn brwydro ar draws 10 categori o grefftau adeiladu yn ystod y 19 Rhagbrawf Rhanbarthol. Yn y digwyddiadau undydd, lle gofynnwyd i ddysgwyr gwblhau tasg osod a oedd yn berthnasol i’w crefft ddewisol, gwelwyd y nifer fwyaf o fenywod a mwy o gystadleuwyr o leiafrifoedd ethnig yn cymryd rhan hefyd.
Bydd 78 o fyfyrwyr – y sgorwyr uchaf ym mhob categori – yn mynd benben â’i gilydd yn y Rownd Derfynol genedlaethol yn Arena Marshall, Milton Keynes ym mis Tachwedd, lle bydd y 10 enillydd yn cael eu coroni’r gorau o’u crefft.
Yn ystod y rownd derfynol o dridiau, bydd disgwyl i’r cystadleuwyr adeiladu prosiect o fewn cyfnod o 18 awr. Bydd y panel o feirniaid arbenigol yn eu hasesu ar nifer o agweddau – gan gynnwys gallu technegol, rheoli amser, datrys problemau, sgiliau gweithio dan bwysau, a chydymffurfiaeth â gofynion iechyd a diogelwch.
Gyda rhagolwg diwydiant blynyddol CITB yn amlygu y bydd angen mwy na 250,000 o weithwyr adeiladu ychwanegol erbyn 2028 i ateb y galw, mae SkillBuild yn llwyfan pwysig ar gyfer codi proffil y sector ac ymwybyddiaeth o’r ystod amrywiol o rolau a gynigir.
Dywedodd Richard Bullock, Pennaeth Cynnyrch Gyrfa CITB:
“Mae’n wych gweld y nifer uchaf erioed o gystadleuwyr yn Rhagbrofion Rhanbarthol SkillBuild 2024, sy’n arddangos y dalent orau, newydd sy’n dod i mewn i’r sector.
“Mae’n amser tyngedfennol ar gyfer datblygu sgiliau a hyfforddiant o fewn y diwydiant adeiladu. Mae SkillBuild yn ysbrydoli newydd-ddyfodiaid posibl tuag at adeiladu, gan amlygu’r gwerth y gall hyfforddai neu brentis ei ychwanegu at fusnes a dangos yr ansawdd anhygoel y gellir ei gyflawni pan fydd unigolion dawnus, ymroddedig yn cael eu cefnogi’n dda i gyflawni eu potensial.
“Mae SkillBuild yn gyfle gwych sy’n helpu pobl ifanc i dyfu mewn hyder a magu’r sgiliau proffesiynol a technegol a fydd yn sail i yrfa wych ym maes adeiladu. Dymunaf bob llwyddiant i’n holl gystadleuwyr wrth iddynt herio’r Rownd Derfynol Genedlaethol eleni, ac edrychwn ymlaen at eich gweld ym mis Tachwedd!”
Dywedodd Jack Goodrum, cyn-gystadleuydd SkillBuild sydd bellach yn feirniad:
“Mae SkillBuild yn lle ardderchog i arddangos y sgiliau rydych chi wedi’u dysgu yn y gweithle. Mae’r gystadleuaeth yn dathlu lefelau sgiliau eithriadol ym mhob un o’r crefftau sy’n cystadlu ac ar draws y diwydiant adeiladu. Mae SkillBuild yn cymryd y rhan anoddaf o’u crefftau dewisol ac yn rhoi hyfforddeion dan bwysau aruthrol i wneud cynnyrch i oddefiannau tynn o fewn amserlen gaeth.
“O fod yn gystadleuydd fy hun i nawr fod yn feirniad yn y categori gwaith coed, rwy’n gwybod pa mor bwysig yw’r cystadlaethau hyn i wella sgiliau, hyder a hunan-barch. Wrth gyrraedd y Rownd Derfynol Genedlaethol trwy gystadlu yn y Rhagbrofion Rhanbarthol, mae cystadleuwyr yn gwybod eu bod yn gweithio i safon genedlaethol a’i bod o fudd aruthrol i’w cyflogadwyedd.”
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth