Facebook Pixel
Skip to content

Y dalent gorau ym maes adeiladu: Pythefnos ar ôl i gofrestru i fynychu Rownd Derfynol Genedlaethol SkillBuild 2024

Peidiwch â cholli’ch cyfle i wylio’r dalent gorau adeiladu o bob cwr o’r wlad yn mynd benben â’i gilydd yn Rownd Derfynol Genedlaethol SkillBuild 2024, y gystadleuaeth sgiliau aml-grefft fwyaf a hiraf yn DU. Mae’r digwyddiad rhad ac am ddim, a gyflwynir gan Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB), yn cael ei gynnal yn Arena Marshall, Milton Keynes, rhwng 20fed a 21ain o Dachwedd ac yn dod â’r cyffro a’r amrywiaeth y mae gyrfa ym maes adeiladu yn eu darparu yn fyw.

Bydd cyfanswm o 78 o fyfyrwyr yn arddangos eu sgiliau mewn deg crefft adeiladu gwahanol, gan gynnwys gosod brics, gwaith coed, a llechi a theilsio toi. Bydd disgwyl i’r cystadleuwyr adeiladu prosiect o fewn cyfnod o 18 awr.

Bydd panel arbenigol o feirniaid yn eu hasesu ar sawl agwedd – gan gynnwys gallu technegol, rheoli amser, datrys problemau, sgiliau gweithio dan bwysau, a chydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch. Bydd enillydd yn cael ei goroni o bob un o’r deg crefft adeiladu sy’n cael eu harddangos yn Rownd Derfynol Genedlaethol SkillBuild.

Ochr yn ochr â’r gystadleuaeth mae’r Arddangosfa Adeiladu, hwb profiadau llawn gweithgareddau ac arddangosiadau i blant a phobl ifanc. Bydd brandiau fel Crown Paints, British Gypsum a STEMPOINT hefyd yn cyflwyno sesiynau.

Bydd enillwyr blaenorol SkillBuild a dylanwadwyr adeiladu yn cyflwyno cyfres o sgyrsiau TED i ymwelwyr gan rannu eu teithiau ac yn ysbrydoli eraill i ymuno ag adeiladu. Ymhlith y rhai sy’n bresennol mae Luke Mabbott, cyn-gystadleuydd Love Island a pherchennog Brotherhood Properties, cwmni adeiladu sy’n prynu ac yn adnewyddu tai, a Charlie Collison, enillydd Super Trowel ddwywaith, cystadleuydd sgimio cyflym a gosod brics, a pherchennog busnes adeiladu.

Dywedodd Richard Bullock, Pennaeth Cynhyrchion Gyrfa yn CITB:

“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at rownd derfynol genedlaethol SkillBuild sydd ar ddod. Gyda CITB yn rhagweld y bydd angen dros 250,000 o weithwyr adeiladu newydd erbyn 2028, mae SkillBuild yn bwysicach nag erioed o ran tynnu sylw at y sector a'r amrywiaeth eang o rolau sydd ar gael ynddo.

“Mae hwn yn gyfnod hollbwysig ar gyfer datblygu sgiliau ym maes adeiladu. Mae SkillBuild yn annog newydd-ddyfodiaid, gan ddangos y gwerth aruthrol y mae hyfforddeion a phrentisiaid yn eu rhoi i’r diwydiant. Mae’n gyfle unigryw i bobl ifanc weld sgiliau uniongyrchol yn y diwydiant adeiladu a darganfod pa mor eithriadol yw gyrfa ym maes adeiladu. Mae hefyd yn gyfle gwych i’r rhai sydd â diddordeb mewn unrhyw un o’r crefftau dan sylw i ddod draw, cefnogi a dysgu gan rai o’r goreuon yn y diwydiant. Rwyf hefyd yn gobeithio bod ansawdd y gwaith sy’n cael ei arddangos yn ysbrydoli cyflogwyr i fuddsoddi mewn prentisiaethau a hyfforddeion o fewn eu timau eu hunain.

“I’n holl gystadleuwyr yn y Rownd Derfynol Genedlaethol, dymunwn bob lwc i chi, ac edrychwn ymlaen at ddathlu eich llwyddiant ymhen pythefnos!”

Hoffai CITB ddiolch i holl noddwyr a chefnogwyr gwych cystadleuaeth SkillBuild eleni:

Albion Stone, BAL Adhesives, Band of Builders, Brick Development Association, British Gypsum, Gyrfa Cymru, CITB NI, Clivedon Conservation, Crown Paints, Felder Group, Festool , FIS, Hambleside Danelaw Building Products, Sefydliad y Seiri, Marley, N&C Nicobond, NFRC, NSITG, Saint Gobain, Schluter, SIG Roofing, SPAX, Stone Restoration Services, TARMAC, The Tile Association, Tilgear, Weber, Wienerberger, The Worshipful Company of Masons, a The Worshipful Company of Tylers and Bricklayers.

Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth