Facebook Pixel
Skip to content

Cynllun Sgiliau'r Sector Adeiladu Cartrefi

Mae aelodau o'r sector adeiladu cartrefi wedi cydweithio i ddatblygu Cynllun Sector i recriwtio a hyfforddi gweithlu'r dyfodol.

Mae CITB yn buddsoddi dros £3m i gefnogi Cynllun Sgiliau'r Sector Adeiladu Cartrefi, gan ganolbwyntio ar weithgareddau sgiliau strategol sydd o fudd uniongyrchol i gyflogwyr:

Partneriaeth â Choleg

Newydd ar gyfer 2024

Mae'r prosiect Partneriaeth â Choleg, sydd yn cael ei redeg ar y cyd â HBF, yn cysylltu colegau addysg bellach (AB) a thiwtoriaid â chyflogwyr adeiladu cartrefi i wella profiadau dysgwyr a gwella gwybodaeth tiwtoriaid AB o dechnegau adeiladu cyfredol. Bydd yn meithrin ymgysylltiad cyflogwyr, gyda'r nod o gynyddu cyflogaeth uniongyrchol o raglenni AB a rhoi hwb i nifer y bobl sy'n ymuno ag adeiladu. Mae'r prosiect hefyd yn ceisio cadarnhau ymrwymiadau gan gyflogwyr yn y sector adeiladu cartrefi i recriwtio o golegau â phartneriaeth, gan wreiddio proses gymorth newydd ar gyfer colegau, unigolion a chyflogwyr.

Hybiau Aml-Sgil ar y Safle

Bydd y hybiau yma ar y safle yn cynnig hyfforddiant mewn meysydd hanfodol fel gwaith brics, gwaith coed, toeau a gwaith daear. Maent yn darparu ar gyfer newydd-ddyfodiaid drwy bootcamps, darpariaeth ar ffurf hyfforddeion a phrentisiaethau. Mae'r hybiau hefyd yn cynnwys elfennau hyfforddi ychwanegol a fydd yn dod i'r amlwg fel rhan o uchelgeisiau sero net, dulliau modern o adeiladu (MMC), a Safon Cartrefi'r Dyfodol. Fe'u cyflwynir mewn partneriaeth â'r Cyngor Adeiladu Tai Cenedlaethol (NHBC).

Dosbarthiadau Meistr Gwaith Briciau a Tho

Ym mis Medi 2024, mae dros 2,000 o fricwyr a thowyr wedi elwa o'r hyfforddiant hwn. Mae'r sesiynau uwchsgilio 90 munud yn rhoi sgiliau arbenigol i'ch gweithlu i leihau diffygion mewn adeiladu tai newydd. Mae'r rhaglen yn darparu sgiliau a gwybodaeth ymarferol ar faterion gwaith brics cyffredin, gan helpu i wella ansawdd cyffredinol a safonau gwaith ar y safle. Cyflwynir y dosbarthiadau meistr mewn partneriaeth â HBF a NHBC.

Uwchsgilio Gwaith Brics

Mae'r rhaglen hon yn uwchsgilio bricwyr, tiwtoriaid gosod brics a myfyrwyr gwaith brics drwy ddarparu 16 cwrs cyfnod byr (sy'n gymwys i grant CITB) mewn colegau ledled y DU. Mae'r pynciau'n amrywio o sgiliau gwaith brics traddodiadol hyd at gyrsiau atal lleithder a defnyddio waliau atal tân. Fe'u cyflwynir mewn partneriaeth â Chymdeithas y Contractwyr Gwaith Brics (ABC). O fis Medi 2024, mae dros 400 o ddysgwyr addysg bellach a bricwyr sydd eisoes yn gweithio ym maes adeiladu wedi cwblhau hyfforddiant.

Cefnogaeth ar gyfer recriwtio prentisiaid

Gall llogi a chadw talent newydd, yn enwedig prentisiaid, fod yn heriol i gyflogwyr. Mae ein tîm o gynghorwyr yn gweithio gyda busnesau micro, bach a chanolig ledled Prydain Fawr i oresgyn y rhwystrau hyn. Gallwn eich helpu i ddod o hyd i ddarpariaeth hyfforddi leol, cael mynediad at gyllid y Llywodraeth a CITB, a darparu mentora i'r rhai sy'n cefnogi hyfforddeion.

Fframweithiau Cymhwysedd

Mae sicrhau bod gan eich gweithwyr y lefelau cywir o gymhwysedd yn hanfodol ar gyfer busnes adeiladu llwyddiannus. Ochr yn ochr â rhanddeiliaid allweddol adeiladu cartrefi, rydym yn adolygu ac yn mireinio fframweithiau cymhwysedd sy'n berthnasol i'r sector. Bydd hyn yn cynnwys archwilio fframweithiau presennol i sicrhau eu bod yn adlewyrchu'r lefel gywir o gymhwysedd sydd ei hangen i gyflawni'r rôl, yn ogystal â chytuno ar fframweithiau priodol ar gyfer eu defnyddio yn y dyfodol.

Cynrychiolydd CITB: Juliet Smithson
Cadeirydd: Neil Jefferson, Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi (HBF)
Buddsoddiad: £3m
Nodau ac amcanion:

  • Alinio'r cyflenwad o weithwyr medrus â gofynion cynyddol y sector
  • Uwchsgilio'r gweithlu presennol a denu talent newydd
  • Hybu cynhyrchiant y gweithlu
  • Gwella ansawdd cartrefi newydd a lleihau diffygion

Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth