Beth yw BIM?
Mae Modelu Gwybodaeth Adeiladu (BIM) yn ffordd o weithio gyda'n gilydd, proses ar gyfer creu a rheoli'r holl wybodaeth am brosiect adeiladu.
Mae Modelu Gwybodaeth Adeiladu (BIM) yn broses sy'n annog cydweithio rhwng yr holl ddisgyblaethau sy'n ymwneud â darlunio, adeiladu, cynnal a chadw a'r defnydd o adeiladau.
Mae'r holl bartïon yn rhannu'r un wybodaeth ar yr un pryd, yn yr un fformat.
Gellir mesur maint y BIM a ddefnyddir ar wahanol 'lefelau o aeddfedrwydd'.
- Lefel 0 – CAD nad yw'n cael ei reoli.
- Lefel 1 – cymysgedd o dechnoleg 2D a/neu dechnoleg 3D gyda theclyn cydweithio sy'n cynnal Amgylchedd Data Cyffredin (CDE)
- Lefel 2 – BIM cydweithredol, lle rennir gwybodaeth model 3D o fewn CDE.
- Lefel 3 – Mae'r lefel hwn wrthi'n cael ei ddiffinio, er y disgwyl yw y bydd yn cynnwys gofynion ynghylch cydweithio uwch a chysylltiad â gwelliannau pellach megis 'dinasoedd clyfar'.
Mae llywodraeth y DU wedi gwneud y defnydd o BIM Lefel 2 yn ofynnol ar gontractau caffael ganolog. Mae'r strategaeth a chynllunio ar gyfer Lefel 3 yn cael ei arwain gan Digital Built Britain. Gallwch gael mwy o wybodaeth neu gymryd rhan trwy ymweld a'u gwefan.
Mae'r tîm dylunio fel arfer yn cynhyrchu modelau BIM a setiau data, ond y gweithwyr sydd ar y safle yw'r rhai sydd angen deall, dehongli a rheoli'r broses o gynhyrchiant a llif gwybodaeth yn ystod y gwaith adeiladu. Felly, Mae ymwybyddiaeth o'r cyfrifoldebau a phrosesau mewn prosiectau BIM yn rhan allweddol o'r set sgiliau ar gyfer rheolwyr a gweithwyr.
Er y bydd BIM yn arwain at greu rhai rolau newydd, mewn nifer o achosion mae'n annhebygol y bydd BIM yn achosi rolau newydd, yn hytrach, bydd galwedigaethau cyfredol yn cymryd y cyfrifoldeb dros rannau amrywiol o'r broses.
Ar safle prosiect nodweddiadol BIM, bydd gan weithwyr safle, ac yn benodol rheolwyr safle, nifer o gyfrifoldebau, gan gynnwys:
- Darllen modelau BIM i gael gwybodaeth ynghylch cynlluniau a chynhyrchion, datrys problemau ac osgoi gwallau
- Ychwanegu gwybodaeth am gamau adeiladu, cynhyrchion a chomisiynu i'r amgylchedd data cyffredin
- Defnyddio modelau BIM i drefnu tasgau a rheoli llif gwaith
- Sicrhau bod eraill o dan eich cyfrifoldeb yn casglu a chyflwyno gwybodaeth
- Cofnodi ffurflenni sicrhau ansawdd a phrosesau iechyd a diogelwch.
Mae'r holl dasgau hyn yn ychwanegu ffyrdd newydd o weithio a chyfrifoldebau ychwanegol. Mae'n bwysig bod gweithwyr y safle yn gwybod pam maeent yn cael eu gofyn am wybodaeth, pam mae'r wybodaeth yn cael ei chreu a chyflenwi a sut mae'r holl wybodaeth yn ffitio i broses BIM.
Felly, mae'r hyfforddiant cywir yn wirioneddol werthfawr.
Mae manteision cofnodedig BIM yn cynnwys:
- Gwell ffiniau elw.
- Arbedion amser a chost wrth ddylunio cyn adeiladu.
- Arbedion amser a chost wrth ddylunio adeilad.
- Mwy o ddiogelwch a gwell gydymffurfiad â rheoliadau rheoleiddiol
- Effeithlonrwydd yn ystod y cyfnod trosglwyddo
- Effeithlonrwydd gweithredol
- Cydweithio a llai o adrannau'n weithio'n gyfrinachol.
Gall fod yn anodd i fesur arbedion cost gan nad yw neb yn gwybod pa gamgymeriadau a allai fod wedi eu digwydd heb y defnydd o BIM. Er gwaethaf hyn, nododd dros chwarter o gleientiaid sy'n defnyddio BIM arbedion cost mewn arolygon diweddar.
Un fudd o ddefnyddio BIM sy'n cael ei nodi'n aml yw ei fod yn helpu osgoi gwrthdaro gan fod ganddo'r gallu i nodi lle bydd amryw elfennau o adeilad - bod yn strwythurau, gwaith pib, ceblau - yn gwrthdaro gan arwain at yr angen i'w symud neu ailgynllunio. Mae cael model 3D sy'n cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol yn eich galluogi chi i nodi a delio â materion o'r fath cyn iddynt ddigwydd ar y safle.
Dylid gweld BIM fel rhan o duedd ehangach: Y defnydd cynyddol o dechnoleg ddigidol a data er mwyn helpu lleihau cost a gwella ansawdd. Mae buddiannau cyffredin sy'n ganlyniadau i ddigidoleiddio y ffordd yr ydym yn gweithio yn cynnwys; gwybodaeth fwy cywir ynghylch cynlluniau prosiect a manylebau cynnyrch gyda phawb yn cael mynediad at yr un gwybodaeth a'r gallu i gydweithio'n haws o ganlyniad. - Mae pob un o'r buddiannau hyn yn fuddiannau cyffredin ddefnyddio BIM.
Mae CITB wedi gweithio ag Academi BRE i greu cwrs penodol o'r enw BIM ar gyfer Rheolwyr Safle, i gefnogi'r rôl hwn. Canfyddwch fwy yma: https://bre.ac/course/bim-level-2-for-site-managers/.
Mae cyrsiau eraill ar BIM sy'n fwy cyffredinol ar gael. Rydym wedi cynnwys dolenni cyswllt i ystod o ddarparwyr isod. (Nid yw'r cyrsiau na'u cymwysterau a gynhwysir a restrir isod wedi eu cymeradwyo gan y CITB o reidrwydd)
BIM Plus (rhestr o gyrsiau addysg uwch) – www.bimplus.co.uk/education/
Academi BIM -
Campws BIM – www.bimcampus.co.uk/course.html
Academi BRE – https://bre.ac
Gwe-seminarau BRE – http://www.bre.co.uk/podpage.jsp?id=3452
BSI – www.bsigroup.com/en-GB/our-services/training-courses
Academi CIOB – www.ciobacademy.org
ICE – www.icetraining.org.uk/courses/bim
RICS – www.rics.org/uk/training-events/e-learning/distance-learning
Gellir dod o hyd i fwy o ffynonellau gwybodaeth ar BIM ar-lein. Dyma rai dolenni defnyddiol.
A ydych yn barod am BIM? Adnodd defnyddiol gan BRE (Y Sefydliad Ymchwil Adeiladau) [The Buildings Research Establishment]: https://www.bre.co.uk/bim
Y grŵp gorchwylio BIM: Adnodd defnyddiol ynghylch cynydd a'r mabwysiadu o BIM ar lefel llywodraeth y DU
There's no BIM like home – One man’s dream to BIM and IOT his Smart Home: blog ynghylch cymhwyso BIM (plus) i dŷ teras dwy ystafell yng Nghymru https://bimblog.house/
Mae Academi BRE yn darparu addysg a hyfforddiant ar BIM: http://www.bre.co.uk/page.jsp?id=3445 ac adroddiad defnyddiol ar fod yn barod ar gyfer BIM https://bre.ac/wp-content/uploads/2017/02/BIM-Readiness.pdf
Mae Fframwaith Glanio Meddal BSIRIA yn cynnig gwybodaeth ar sut i gynnal ymgysylltiad wedi defnydd :
PAS 1192-2:2013 is BSI’s specification for information management for the capital/delivery phase of construction projects using BIM:http://shop.bsigroup.com/forms/PASs/PAS-1192-2/
PAS 1192-2:2013 is BSI’s fanyleb ar gyfer rheoli gwybodaeth yn ystod y cyfnod cyfalaf/gyflwyno o brosiectau adeiladu sy'n defnyddio BIM:http://shop.bsigroup.com/forms/PASs/PAS-1192-2/
Cwrs a argymhellir
.
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth