Facebook Pixel
Skip to content

Cymru

Beth sydd ar gael i gyflogwyr adeiladu yng Nghymru

Gall Ymgynghorwyr CITB eich cefnogi i wneud diagnosis o fylchau sgiliau, rhoi cyngor ar brentisiaethau, deddfwriaeth a hyfforddiant, yn ogystal â’ch cyfeirio at ffynonellau cymorth a chyngor eraill. Mae cymorth penodol ar gael i’ch helpu â’ch anghenion Prentisiaeth drwy ein Tîm Cymorth i Newydd-Ddyfodiaid. Dewch o hyd i’w manylion cyswllt yn y dolenni isod:

Ymgynghorwyr lleol yng Nghymru

Mae gan CITB ymgynghorwyr lleol i helpu cyflogwyr i gael mynediad at gymorth a gwasanaethau gan CITB yn ogystal â sefydliadau partner eraill yng Nghymru. Gweler isod am fanylion yr ymgynghorydd lleol yn eich ardal.

Ynys Môn, Conwy a Gwynedd, Caerffili, Torfaen, Blaenau Gwent, Sir Fynwy, Casnewydd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr

Aled Hughes

Ers 2010, mae Aled wedi bod yn rhoi cymorth a chyngor i gyflogwyr yn y diwydiant adeiladu. Mae'n ymgynghorydd gyrfaoedd cymwys ac ar hyn o bryd mae'n dilyn cymhwyster Lefel 5 y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM) mewn Hyfforddi a Mentora.

Mae Aled yn siaradwr Cymraeg rhugl ac yn hapus i ddarparu gwasanaeth dwyieithog i fodloni anghenion cwsmeriaid.

Ffôn: 07795 800573
Ebost:
Trydar: @AledCITB
LinkedIn

Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Gogledd Powys

Emrys Roberts

Dechreuodd Emrys weithio fel Ymhynghorydd Gyrfa Adeiladu gyda’r CITB yn 2011 ac mae wedi bod yn Ymhynghorydd CITB ers 2016.

Cyn ymuno â'r CITB bu'n gweithio i Gyrfa Cymru yn y Gogledd Ddwyrain. Mae Emrys yn siaradwr Cymraeg rhugl ac yn hapus i ddarparu gwasanaeth dwyieithog i fodloni anghenion cwsmeriaid.

Ffôn: 07881 514865
Ebost:
Trydar: @CitbEmrys

Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro

Helen Murray

Mae Helen wedi bod yn gweithio i CITB ers 2016 ac mae wedi bod yn eiriolwr hirdymor ar gyfer dysgu gydol oes a datblygu economaidd lleol.

Mae ganddi brofiad fel hyfforddwraig, rhedeg busnesau a gwerthuso; ac yn ddysgwr Cymraeg uwch.

Ffôn: 07500 096107
E-bost: Helen.Murray@citb.co.uk
Trydar: @H3l3nCITB
LinkedIn

Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a De Powys

Jon Davies

Mae Jon wedi gweithio yn CITB ers dros 14 mlynedd, yn y cyfnod hwnnw yn cefnogi’r rhaglen brentisiaeth a nawr fel Ymgynghorydd Ymgysylltu yn Rhanbarth Abertawe a De Powys.

Mae'n hyrwyddwr DYYG, fel cyn-brentis ei hun. Mae'n Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl cymwysedig ac wedi bod yn hyrwyddwr diogelu yn ei amser gyda CITB. Cyn cwblhau cymhwyster Lefel 5 y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM) mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth mae Jon bellach yn gweithio tuag at ei BA Anrhydedd mewn Rheolaeth Busnes.

Ffôn: 07824 865551
E-bost: jon.davies@citb.co.uk
Trydar: @jondaviesCITB

LinkedIn: https://www.linkedin.com/in/jon-davies-b9ab97124/

Caerdydd, Casnewydd, Sir Fynwy a Thorfaen

Suzanne Perkins

Mae Suzi wedi ymuno â’n tîm CITB ar ôl gweithio i gwmni adeiladu mawr ers 2008 yn rheoli rhaglen Gwerth Cymdeithasol ac Ymgysylltiad Cymunedol rhanbarthol.

Mae Suzi yn edrych ymlaen at gefnogi ein cyflogwyr bach a mawr sydd wedi cofrestru gyda CITB ledled De-ddwyrain Cymru o fewn ei hardaloedd, yn eu helpu i gael mynediad at ein grantiau a’n cyllid yn ogystal â chefnogi gyda’n Llysgenhadon STEM Am Adeiladu a chysylltiadau coleg.

Ffôn: 07770 678353
E-bost:

Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili a Merthyr Tudful

John Evans

Dechreuodd John gyda CITB fel Cynghorydd ym mis Awst 2019. Cyn ymuno â CITB bu John yn gweithio ar Brosiect Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae John yn siaradwr Cymraeg rhugl ac yn hapus i ddarparu gwasanaeth dwyieithog i ddiwallu anghenion cyflogwyr.

Ffôn/Fôn: +44 (0)7748 238 704
Ebost/Ebost: john.evans@citb.co.uk

Rhondda Cynon Taf a Chastell Nedd Port Talbot

Ross Baker

Mae Ross wedi bod gyda CITB ers 2013.  Gan weithio o fewn y tîm prentisiaethau tan fis Gorffennaf 2021, cymerodd Ross ei rôl newydd fel Ymhynghorydd Ymgysylltu â Chwsmeriaid ar gyfer Rhondda Cynon Taf a Chastell-nedd Port Talbot. Treuliodd Ross 18 mlynedd yn gweithio gyda phrentisiaid adeiladu ar draws De-orllewin Cymru ac mae’n dod â chyfoeth o wybodaeth Prentisiaethau i’r rôl. Mae Ross yn swyddog cymorth cyntaf iechyd meddwl ac ar hyn o bryd yn astudio tuag at radd BA Anrhydedd mewn Economeg.

Mae Ross yn awyddus i gefnogi cymaint o gwmnïau â phosibl, mawr a bach, o fewn rhanbarthau RhCT a CNPT.

Ffôn: 07786 334801

E-bost: ross.baker@citb.co.uk
LinkedIn:Ross Baker

 

Cysylltwch â’ch Ymgynghorydd Cymorth i Newydd-Ddyfodiaid CITB

Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy, Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Gogledd Powys

Alexandra Morris

Mae Alex wedi bod gyda CITB fel Ymgynghorydd Cymorth i Gyflogwyr Newydd-Ddyfodiaid ers 2022. Cyn hynny bu’n gweithio yng Ngholeg Cambria yn cefnogi myfyrwyr adeiladu addysg bellach i gyflawni eu cymwysterau.

Mae Alex yn Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ac yn Ymgynghorydd ar ôl cwblhau ei chwrs Cyngor ac Arweiniad Lefel 4. Gall Alex ddarparu cyngor ac arweiniad arbenigol ar Brentisiaethau, gan gynnwys cymorth â recriwtio, dod o hyd i’r brentisiaeth gywir, cyfeirio at ddarpariaethau a hawlio grantiau.

Ffôn: 07384 876722
E-bost: 

 

Cysylltwch â’ch Ymgynghorydd Cymorth i Newydd-Ddyfodiaid CITB

Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, Abertawe, De Powys, Rhondda Cynon Taf, Castell-nedd Port Talbot, Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful, Caerdydd, Torfaen, Blaenau Gwent, Sir Fynwy a Chasnewydd.

Peter Carey

Mae Pete wedi bod gyda CITB fel Ymgynghorydd Cymorth i Gyflogwyr Newydd-Ddyfodiaid ers dychwelyd i CITB yn 2022. Cyn hynny bu’n gweithio gyda NPTC a CITB fel Swyddog Prentisiaethau lle’r oedd ei gyfrifoldebau’n cynnwys gofalu am y prentisiaid a’r cyflogwyr i gwblhau eu rhaglen brentisiaeth lawn.

Mae gan Pete ystod eang o brofiad ym maes cefnogi cyflogwyr a phrentisiaid. Gall Pete ddarparu cyngor ac arweiniad arbenigol ar Brentisiaethau, gan gynnwys cymorth â recriwtio, dod o hyd i’r brentisiaeth gywir, cyfeirio at ddarpariaethau a hawlio grantiau.

Ffôn: 07778 429151
E-bost: 

Rhwydweithiau Cyflogwyr

Mae Rhwydweithiau Cyflogwyr yn fenter a sefydlwyd ac a ariennir gan CITB gyda'r nod o symleiddio'r ffordd rydych chi'n cael y gefnogaeth a'r cyllid sydd ei angen arnoch i gael mynediad i'r hyfforddiant rydych chi ei eisiau.

Mae yna lawer o sefydliadau yng Nghymru sy'n darparu cyngor ar fusnes, recriwtio a chymorth gyrfaoedd i gyflogwyr adeiladu. Mae’r gwasanaethau cymorth sydd ar gael yn cynnwys:

Cyngor busnes a chymorth strategaeth

Hyrwyddo adeiladu fel gyrfa

Recriwtio a chadw

Hyfforddiant

Cefnogaeth arall

Cyngor busnes a chymorth strategaeth

Busnes Cymru

Mae Busnes Cymru yn wasanaeth rhad ac am ddim sy’n cynnig cymorth a chyngor diduedd, annibynnol i gyflogwyr ledled Cymru, ni waeth a ydynt yn fusnes newydd neu sefydledig.

Ewch ar wefan Busnes Cymru am fanylion y cymorth a'r gwasanaethau sydd ar gael.

Academi Busnes Gogledd Cymru

Mae'r academi yn cynnig rhaglen ddysgu sydd wedi'i chynllunio i helpu cyflogwyr adeiladu i ddatblygu strategaeth fusnes sy'n tyfu eu busnes.

Mae’r rhaglen 2 gam yn cynnwys cyfres o fodiwlau ymarferol dan arweiniad mentor busnes.

am fanylion y rhaglen hon.

Hyrwyddo adeiladu fel gyrfa

Business in the Community Cymru

Mae Business in the Community Cymru (BITC) yn dod â chwmnïau at ei gilydd i fynd i’r afael â materion cymdeithasol. Mae eu rhaglen yn darparu fframwaith ar gyfer partneriaethau hirdymor rhwng busnesau ac ysgolion sydd o fudd i'r ddwy ochr.

Maent hefyd yn cefnogi llawer o gwmnïau i wneud gwirfoddoli yn norm yn eu gweithle.

Ewch i wefan BITC am ragor o wybodaeth .

Cyfnewid Busnes Addysg

Mae Cyfnewid Busnes Addysg Gyrfa Cymru yn helpu i baru cyflogwyr adeiladu ac ysgolion. Nod y cyfnewid yw rhoi cyfle i gyflogwyr weithio gydag ysgolion i ddatblygu rhaglenni addysgol yn ymwneud ag adeiladu.

Ewch ar wefan y Gyfnewidfa Addysg Busnes am ragor o fanylion.

Troi eich Llaw

Mae menter Troi eich Llaw yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau rhyngweithiol a hwyliog i ysgolion a myfyrwyr lle gallant gael blas ar y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa yn y sector adeiladu.

Mae'r rhaglen yn chwilio am gyflogwyr adeiladu fel partneriaid ar gyfer y fenter hon

Ewch i wefan Troi eich Llaw i gael rhagor o wybodaeth am y fenter.

Recriwtio a chadw

Chwarae Teg

Mae Chwarae Teg yn cynnal y Rhaglen Busnes Cenedl Hyblyg 2. Nod y rhaglen yw gwella perfformiad busnes trwy recriwtio, cadw a datblygu gweithlu amrywiol yn effeithiol.

am ragor o wybodaeth am y rhaglen hon.

Ymddiriedolaeth y Tywysog

Mae Ymddiriedolaeth y Tywysog yn helpu pobl ifanc i gael addysg, hyfforddiant a gwaith. Maent yn chwilio’n rheolaidd am fusnesau i bartneru â nhw yn eu rhaglenni, gan gynnwys lleoliadau gwaith a gwirfoddoli gan gyflogeion.

Ewch ar wefan Ymddiriedolaeth y Tywysog i gael rhagor o wybodaeth am sut i weithio mewn partneriaeth â'r ymddiriedolaeth.

Hyfforddiant

Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC)

Mae Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC) yn cynnig hyfforddiant adeiladu pwrpasol ac arbenigol i bob sector a lefel.

Ewch ar wefan Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru am fanylion y cyrsiau sydd ar gael.

Arweinyddiaeth Ion

Mae'r rhaglen Arweinyddiaeth Ion yn helpu i ddatblygu a gwella sgiliau arwain perchnogion a rheolwyr busnes.

Maent yn cynnig cyrsiau arweinyddiaeth ymarferol sydd wedi'u cynllunio i helpu cyfranogwyr i ddysgu sut i roi'r syniadau, y strategaethau a'r arferion gorau diweddaraf ar waith yn eu busnesau.

Ewch ar wefan Ion Leadership am fanylion y cyrsiau a'r cymwysterau arweinyddiaeth sydd ar gael.

Porth Sgiliau

Mae'r Porth Sgiliau yn darparu nifer o becynnau cymorth i helpu cyflogwyr i ddynodi bylchau yn sgiliau eu gweithlu fel y gallant gynllunio hyfforddiant a datblygiad eu gweithwyr.

Mae'r Porth Sgiliau hefyd yn cynnig gwasanaethau a chymorth eraill, megis cymorth prentisiaeth a recriwtio.

Ewch ar wefan y Porth Sgiliau i gael rhagor o wybodaeth am eu gwasanaethau.

Cefnogaeth arall

Cymwysterau Cymru

Mae Cymwysterau Cymru yn rheoleiddio cymwysterau galwedigaethol yng Nghymru. Maent yn gweithio gyda llawer o sefydliadau i fonitro cydymffurfiad cyrff dyfarnu, adolygu cymwysterau presennol, goruchwylio dyluniad gofynion newydd a chefnogi'r system gymwysterau.

O bryd i'w gilydd, maent yn ymgynghori â chyflogwyr adeiladu ynghylch y cymwysterau sydd eu hangen yn y diwydiant.

gael rhagor o wybodaeth am eu gwaith.

Mae 11 o grwpiau hyfforddiant adeiladu yng Nghymru sy’n cwmpasu ystod eang o sectorau adeiladu cyffredinol ac arbenigol.

Dod o hyd i Grŵp Hyfforddi - CITB  

Digwyddiadau rhwydweithio busnes, seminarau a gweithdai

Mae Canfyddwr Digwyddiadau Busnes Cymru yn rhestru’r holl ddigwyddiadau rhwydweithio, seminarau, gweithdai a chyrsiau byr sy’n ymwneud ag adeiladu sydd ar gael i gyflogwyr yng Nghymru.

Ewch ar wefan Canfod Digwyddiadau Busnes Cymru i ddod o hyd i’ch digwyddiad busnes agosaf.

Digwyddiadau cyflogwyr CITB

Mae CITB yn trefnu cymorthfeydd lleol lle gall cyflogwyr gyfarfod â’u cynghorwyr lleol wyneb yn wyneb i gael cyngor a chymorth ar sut i gael mynediad at grantiau CITB, cymorth ynghylch hyfforddiant a gwasanaethau prentisiaeth.

Mae CITB hefyd yn trefnu sioeau teithiol i gyflogwyr o leiaf unwaith y flwyddyn lle gall cyflogwyr lleol rwydweithio â’u cyfoedion a chael gwybodaeth am gynlluniau strategol CITB ar gyfer diwydiant adeiladu Cymru.

Gweler Digwyddiadau am ragor o wybodaeth gan gynnwys cofrestru i fynychu un o'r digwyddiadau hyn.

Digwyddiadau blasu addysg a sgiliau

Mae SgiliauCymru yn cynnig cyfle i bobl gael gwybodaeth uniongyrchol am yrfa yn y diwydiant adeiladu yng Nghymru. Mae'r digwyddiad rhad ac am ddim hwn yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau ymarferol a sesiynau blasu sgiliau, yn ogystal â gwybodaeth am gyrsiau addysg bellach a hyfforddiant sydd eu hangen ar gyfer swydd ym maes adeiladu.

Gweler digwyddiadau Sgiliau Cymru am ragor o wybodaeth.

Digwyddiadau hyfforddiant am ddim

Mae Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC) yn cynnig cyrsiau hyfforddi am ddim i gyflogwyr a gweithwyr adeiladu Cymru.

Ewch ar wefan CWIC am ragor o wybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael.

Cymorthfeydd Cynghori

Cyfle i drefnu apwyntiad wyneb yn wyneb gyda'r Cynghorydd Lleol i drafod cyllid a grantiau CITB. I archebu e-bostiwch suzanne.perkins@citb.co.uk yr Ymgynghorydd Ymgysylltu Lleol.

Mae nifer o ymgynghoriadau ar agor ar hyn o bryd lle gwahoddir cyflogwyr adeiladu i gyfrannu eu barn iddynt.

Mae sefydliadau sydd am ymgynghori â’r diwydiant adeiladu fel a ganlyn:

Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth