Cynllun Busnes 2024-25
Dros y flwyddyn i ddod, rydym yn buddsoddi dros £267m i gefnogi adeiladwaith ym Mhrydain. Bydd Cynllun Busnes CITB yn adeiladu ar ein cyflawniadau hyd yma, a bydd ein gwaith yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â thri maes blaenoriaeth allweddol:
- Hysbysu a galluogi pobl amrywiol a medrus i mewn i adeiladu
- Datblygu system hyfforddiant a sgiliau i ddiwallu anghenion y presennol a’r dyfodol
- Cefnogi’r diwydiant i hyfforddi a datblygu ei weithlu
Ein tri maes blaenoriaeth allweddol
Hysbysu a galluogi pobl amrywiol a medrus i mewn i adeiladu
Mae adeiladu angen cyflenwad cryfach o dalent i weithio tuag at ddiwallu’r prinder sgiliau a nod ein hymyriadau yw dileu’r rhwystrau i ddenu talent newydd.
Mae ein Cynllun yn canolbwyntio ar ddenu ystod eangach o bobl i’n diwydiant a darparu cymorth mwy uniongyrchol i gyflogwyr recriwtio a chadw’r bobl sydd ei hangen arnynt, nawr ac yn y dyfodol. Mae ein hymagwedd hefyd yn helpu cyflogwyr i wella cynaliadwyedd busnes trwy hybu cynhyrchiant.
Datblygu system hyfforddiant a sgiliau i ddiwallu anghenion y presennol a’r dyfodol
Mae’r system sgiliau yn hanfodol i allu cyflogwyr a diwydiant i hyfforddi. Mae angen iddo esblygu i ddiwallu anghenion adeiladu yn awr ac yn y dyfodol.
I wneud hyn byddwn yn sefydlu diffiniad o gymhwysedd sy’n eiddo i’r diwydiant ac yn nodi llwybrau mynediad amgen i’r diwydiant.
Cefnogi’r diwydiant i hyfforddi a datblygu ei weithlu
 phiblinell cryf o waith a gofynion newydd sy’n dod law yn llaw â diwydiant sy’n newid ac yn moderneiddio’n gyflym, byddwn yn buddsoddi yn y gweithlu presennol ac yn gwneud yn siŵr bod darpariaeth hyfforddiant yn gweithio i ddiwydiant.
Rhaid i hyfforddiant fod yn fforddiadwy, o ansawdd uchel, ac yn hygyrch i bawb, gan ddatblygu cymhwysedd unigolion a gwella sylfaen sgiliau busnesau.
Bydd ein gwaith yn canolbwyntio’n benodol ar wella hygyrchedd hyfforddiant ar gyfer busnesau bach a chanolig (BBaCh).
Symleiddio sut rydym yn mesur llwyddiant
Byddwn yn mesur ein perfformiad wrth gyflawni’r Cynllun hwn yn erbyn tri mesur canlyniad allweddol sy’n cyd-fynd â’n Diben:
- Cynnydd o 15% yn nifer y newydd-ddyfodiaid i’r diwydiant
- Cynnydd o 14% yn nifer y cyflogwyr a gefnogir i hyfforddi ac uwchsgilio eu gweithlu
- Cynnydd o 13% yn nifer yr unigolion a gefnogir i gael eu hyfforddi a’u huwchsgilio.
Bydd y system fesur symlach hon yn rhoi’r gallu i olrhain cynnydd yn erbyn ein gweledigaeth a’n cenhadaeth a nodi lle mae angen i ni addasu ein cynlluniau i wella ein perfformiad er mwyn cyflawni ar gyfer y diwydiant adeiladu. Bydd ein holl weithgareddau ac ymyriadau yn cyfrannu at gyflawni o leiaf un o’r tri mesur.
Sut byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid
Cyflogwyr
Byddwn yn parhau i weithio gyda chyflogwyr ym mhob un o’r tair gwlad i annog a chefnogi’r rhai sy’n manteisio ar sgiliau a hyfforddiant. Ochr yn ochr â’r mentrau sydd wedi’u cynllunio ar gyfer eleni, bydd cyflogwyr yn gallu cael mynediad i CITB trwy’r ffyrdd canlynol:
Cynghorau Cenedl
Mae ein Cynghorau Cenedl yn rhan allweddol o’n llywodraethu ac yn sicrhau bod gennym ddolen adborth gan gyflogwyr yn y tair gwlad i’n Bwrdd ym mhob cyfarfod. Mae hyn yn gwneud yn siŵr ein bod yn cydweithio ac yn ymgynghori â diwydiant i ddiwallu anghenion cyflogwyr yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.
Sefydliadau a Ffederasiynau Rhagnodedig
Mae ein partneriaethau gwaith cryf a phositif â Sefydliadau a Ffederasiynau Rhagnodedig yn allweddol i gyflawni ein Cynllun, a byddant yn parhau i chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ddatblygu ac adolygu safonau.
Darllen y Cynllun Busnes
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth