Cynllun gweithredu sero-net
Ar y dudalen hon:
Beth yw sero-net?
Mae sero-net yn cyfeirio at sicrhau cydbwysedd rhwng faint o allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n cael eu cynhyrchu a faint sy’n cael eu tynnu o’r atmosffer. Mae dwy ffordd y gall unigolion, busnesau a gwledydd gyflawni sero-net, ac mae’r rheini’n mynd law yn llaw: lleihau allyriadau presennol a mynd ati i gael gwared ar nwyon tŷ gwydr.
Ym mis Tachwedd 2020, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei chynllun 10 pwynt (Dolen allanol - Yn agor mewn tab neu ffenestr newydd) ar gyfer Chwyldro Diwydiannol Gwyrdd. Mae’n nodi llwybr at sero-net i’r wlad erbyn 2050.
Pasiodd Senedd yr Alban Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Lleihau Allyriadau) (Yr Alban) ym mis Medi 2019. Gosododd y Ddeddf darged sero-net ar gyfer y flwyddyn 2045.
Yn 2021, gosododd Cymru darged ar gyfer cyflawni sero-net fel cenedl erbyn 2050.
Mae adeiladu’n cyfrannu’n sylweddol at allyriadau carbon yn y DU, amcangyfrifir fod:
- 40% o allyriadau’r DU yn dod o’r amgylchedd adeiledig
- 80% o’r adeiladau fydd yn cael eu defnyddio yn 2050 eisoes wedi cael eu hadeiladu
- angen ôl-osod 27 miliwn o gartrefi a 2 filiwn o adeiladau eraill
Mae’r dudalen hon yn crynhoi ymateb CITB i’r her sero-net, gan egluro’r camau rydym ni’n eu cymryd i sefydlu’r sylfeini a fydd yn cefnogi’r diwydiant dros y blynyddoedd nesaf wrth iddo baratoi i ddatgarboneiddio. Mae ein cynllun gweithredu cychwynnol yn edrych ar sut byddwn ni’n gweithio gyda’r diwydiant i gyflawni nodau sero-net Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru.
Sut gall adeiladu gefnogi uchelgeisiau sero-net y DU?
Mae ein cynllun gweithredu sero-net yn canolbwyntio ar y tair her i’r diwydiant a nodir yn ein cynllun busnes:
- Ymateb i’r galw am sgiliau yn y diwydiant
- Datblygu capasiti a gallu’r ddarpariaeth hyfforddiant adeiladu
- Anghenion sgiliau’r dyfodol
Pam fod CITB yn dilyn y trywydd hwn?
Mae cyflogwyr a chyrff cynrychioliadol yn y diwydiant wedi rhoi neges bendant i CITB bod angen mwy o eglurder ynglŷn â’r sgiliau sydd eu hangen i baratoi ar gyfer sero-net.
Mae cynllun sgiliau’r Cyngor Arwain y Diwydiant Adeiladu (Dolen allanol - Yn agor mewn tab neu ffenestr newydd) a mentrau Adeiladu Sero (Dolen allanol - Yn agor mewn tab neu ffenestr newydd) yn nodi pwysigrwydd ehangu’r sgiliau, yr wybodaeth a’r ymddygiadau sy’n berthnasol i sero-net a fydd eu hangen ar newydd-ddyfodiaid.
Mae ein cynllun gweithredu’n ddeinamig – bydd yn datblygu wrth i ni gael rhagor o eglurder ynglŷn â ble mae’r galw a pha sgiliau sydd eu hangen. Bydd yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd wrth i ymrwymiadau newydd gael eu gwneud mewn ymateb i’r mandad y mae’r diwydiant yn ei ddarparu ac wrth i gymorth newydd gael ei roi ar waith. Mae gweithgareddau cynnar y cynllun gweithredu yn canolbwyntio ar y canlynol:
- Cynnal y gwaith ymchwil a dadansoddi, sydd ei angen er mwyn meithrin gwell dealltwriaeth o’r sgiliau mae’r diwydiant yn dweud bod angen eu datblygu
- Sicrhau bod safonau a chanllawiau yn rhoi eglurder i’r diwydiant, gweithwyr a darparwyr hyfforddiant a’u bod, yn y pen draw, yn arwain at gymwysterau
- Buddsoddi’n raddol i sicrhau bod y diwydiant yn gallu cael gafael ar yr hyfforddiant, y datblygiad a’r sgiliau cywir ar gyfer adeiladu sero-net
- Gweithio gyda llywodraethau i roi’r gefnogaeth a’r buddsoddiad cywir ar waith
Adnoddau sero-net a chymorth sydd ar gael
Pa hyfforddiant a chymwysterau sydd ar gael?
Mae’r cyrsiau canlynol yn cael eu cefnogi gan grant ar gyfer cyflogwyr sydd wedi cofrestru â CITB:
- Ôl-osod adeiladau hŷn a thraddodiadol
- Dosbarth meistr inswleiddio ôl-osod
- Dosbarth meistr fentiau preswyl
- Diploma Lefel 5 Cydlynu Ôl-osod a Rheoli Risg
- Tystysgrif NVQ, diploma NVQ (Lefel 2 a 3)/ SVQ (Yr Alban) Lefel 5 Insiwleiddio a Thriniaethau Adeiladu (Adeiladu)
- NVQ (Lefel 2 a 3) / Diploma / SVQ (Yr Alban) Lefel 5 Inswleiddio Thermol (Adeiladu)
- MSc Dylunio ac Adeiladu Adeiladau Carbon Sero ac Adeiladau Ynni Isel Iawn
- MSc/Tystysgrif PG/Diploma PG Adeiladu Gwyrdd
- MSc Astudiaethau Pensaernïol Cynaliadwy
- MSc Cadwraeth Adeiladau Cynaliadwy
- MSc Peirianneg Sifil a Strwythurol Gynaliadwy
- MSc/BSc/FdSc/HNC/HND Adeiladu Cynaliadwy
- MSc Adeiladau Mawr Cynaliadwy
Mae Cynllun Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Amgylcheddol Safleoedd (SEATS) CITB wedi cael ei ddatblygu ar gyfer goruchwylwyr/rheolwyr gyda'r nodo roi cyflwyniad i ymgeiswyr am faterion amgylcheddol ar safleoedd adeiladu. Mae’r cwrs rhyngweithiol undydd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ddysgwyr ynglŷn â’r amgylchedd a chynaliadwyedd drwy roi trosolwg trylwyr o’r pwnc, y ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion gorau’r diwydiant.
Sut mae CITB yn cefnogi sero-net drwy safonau?
Mae llwybrau ôl-osod wedi cael eu datblygu ar gyfer Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol:
- Rheoli Safleoedd Adeiladu
- Goruchwylio Safleoedd Adeiladu
Mae safonau hyfforddi wedi cael eu datblygu’n unol â gofynion sero-net ar gyfer y Safon Galwedigaethol Cenedlaethol triniaethau adeiladu ac inswleiddio (Dolen allanol - Yn agor mewn tab neu ffenestr newydd).
Pa gymorth arall sydd ar gael?
Mae CITB yn gweithio i godi proffil gyrfaoedd yn y maes adeiladu, gan ei wneud yn llwybr gyrfa deniadol a chynyddu nifer y bobl sy’n ystyried gyrfa yn y maes adeiladu. Mae hyn yn hanfodol os ydym am adeiladu’r capasiti i gyflawni sero-net.
Mae CITB yn cefnogi’r diwydiant i gynyddu ei weithlu drwy ddenu newydd-ddyfodiaid a phobl sy’n newid gyrfa o gefndiroedd amrywiol a chefnogi amgylchedd gwaith cynhwysol drwy ein mentrau Tegwch, Cynhwysiant a Pharch. (Dolen allanol - Bydd yn agor mewn tab neu ffenestr newydd)
Ein cynlluniau ar gyfer sero-net yn y dyfodol
Beth yw cynlluniau CITB ar gyfer cymorth sero-net yn y dyfodol?
Adnoddau cymorth
Bydd Adnodd Rhagolwg Llafur (LFT) CITB yn cael ei ddiweddaru gyda’r gallu i greu senarios o’r galw am sgiliau sy’n gysylltiedig â gwahanol strategaethau ôl-osod rhanbarthol ar gyfer ardaloedd daearyddol is-ranbarthol. Bydd hyn yn helpu llywodraeth leol, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant i ddatblygu eu cynlluniau sgiliau ôl-osod eu hunain.
Edrych ar opsiynau i gefnogi’r gwaith o ddatblygu canolfan beilot ar gyfer gwaith atgyweirio, cynnal a chadw a gwella sero-net.
Cymorth ariannol
Byddwn yn targedu cyllid at feysydd sgiliau blaenoriaeth sy’n hysbys ac yn ddealladwy, fel cydlynwyr ôl-osod L5 a sgiliau gosod inswleiddiad.
Bydd meysydd sgiliau blaenoriaeth sero-net ychwanegol a nodir hefyd yn cael cyllid wedi’i dargedu, gan gynnwys cyllid wedi’i dargedu’n ddaearyddol os yw hynny’n briodol.
Sut bydd cymwysterau a safonau adeiladu yn datblygu i fodloni ymrwymiadau sero-net?
Byddwn yn datblygu ac yn diweddaru safonau a chymwysterau i gynnwys sero-net a chynaliadwyedd gan ganolbwyntio’n benodol ar y canlynol:
- Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol
- Prentisiaethau, gweithio gyda’r Sefydliad Prentisiaethau ac Addysg Dechnegol
- Hyfforddeiaethau
Gweithio gyda’n partneriaid ar sero-net
Gweithio gyda:
Partneriaid yn y diwydiant, byddwn yn cynnal ymchwil i ddeall yn well y sgiliau sydd eu hangen ar y diwydiant i gyflawni yn erbyn sero-net a lle bydd angen i ni dargedu ein cymorth, gan ganolbwyntio i ddechrau ar ôl-osod a chartrefi newydd. O ganlyniad i’n hymchwil, bydd unrhyw feysydd sgiliau blaenoriaeth sero-net ychwanegol a nodir yn cael eu hystyried ar gyfer cyllid wedi’i dargedu, gan gynnwys cyllid wedi’i dargedu’n ddaearyddol os yw’n briodol.
Awdurdodau Cyfun a llywodraeth leol i ddatblygu sylfaeni tystiolaeth ar lefel leol i gefnogi cynlluniau sgiliau lleol a diwallu anghenion lleol y diwydiant ar gyfer sero-net. Gan ddefnyddio ein hadnodd rhagweld llafur, rydym ni’n bwriadu dechrau dadansoddiad rhanbarthol o’r angen am sgiliau ôl-osod a sero-net i helpu i roi gwell gwybodaeth i’r diwydiant am anghenion hyfforddi rhanbarthol.
Darparwyr hyfforddiant, diwydiant a ffederasiynau i ddeall anghenion sgiliau sero-net sy’n esblygu a rhwystrau i hyfforddiant sero-net. Byddwn ni hefyd yn gweithio gyda darparwyr hyfforddiant i gefnogi eu dealltwriaeth o’r gofynion ar gyfer unrhyw safonau sy’n newid mewn ymateb i sero-net.
Llywodraethau ar bolisi sgiliau i ddiwallu anghenion sero-net hirdymor y sector.
Adnoddau defnyddiol
Arweiniad
Mae cyfrifiannell carbon Ysgol y Gadwyn Gyflenwi (Dolen allanol - Yn agor mewn tab neu ffenestr newydd) yn galluogi busnesau i weld beth yw eu hallyriadau carbon fel cam cyntaf tuag at eu lleihau.
Mae Gwireddu sero-net gyda BSI (Dolen allanol - Yn agor mewn tab neu ffenestr newydd) yn flog sy’n crynhoi’r holl safonau BSI sy’n berthnasol i’r Amgylchedd Adeiledig.
Mae Canllaw Dylunio Argyfwng Hinsawdd LETI (Dolen allanol - Yn agor mewn tab neu ffenestr newydd) yn ymdrin â 5 maes allweddol: ynni gweithredol, carbon wedi’i ymgorffori, dyfodol gwres, ymateb i alw, a datgelu data. Mae’n cynnwys gosod gofynion pedwar math allweddol o adeilad, adeiladau preswyl ar raddfa fach, adeiladau preswyl ar raddfa ganolig a mawr, swyddfeydd masnachol ac ysgolion.
Mae’r Academi Ôl-osod (Dolen allanol - Yn agor mewn tab neu ffenestr newydd) yn cynnig canllawiau am ddim i’w llwytho i lawr ar amrywiaeth o bynciau ôl-osod i gefnogi cyflogwyr a’u helpu i fynd i’r afael ag unrhyw fylchau posibl o ran sgiliau.
Adnoddau a Hyfforddiant
Ysgol y Gadwyn Gyflenwi (Dolen allanol - Yn agor mewn tab neu ffenestr newydd) (Mewn partneriaeth) ystod o gyrsiau ar gynaliadwyedd a sero-net. Wedi’i ariannu’n rhannol gan CITB, mynediad at hyfforddi a datblygu AM DDIM ac adnoddau i fusnesau, ar gyfoeth o bynciau sy’n berthnasol i sero-net gan gynnwys Cynaliadwyedd, Digidol, Tegwch, Cynhwysiant a Pharch, Adeiladu Diwastraff, Rheoli, Oddi ar y safle, Pobl a Chaffael.
Mae adnodd Olwyn Ôl-osod STBA (Dolen allanol - Yn agor mewn tab neu ffenestr newydd) yn gadael i chi ddewis eich ystod o fesurau ac yna mae’n categoreiddio’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r rhain ac yn darparu hyperddolenni i’r ymchwil a aseswyd gan gymheiriaid sydd wedi cael ei gynhyrchu. Cafodd yr Olwyn ei diweddaru yn 2020 diolch i grant gan Trustmark ac ar hyn o bryd dyma asgwrn cefn y gwaith PAS2035 yn y DU.
Mae Sylfeini Carbon Sero-Net gan BRE (Dolen allanol- Yn agor mewn tab neu ffenestr newydd) yn gwrs sy’n cyflwyno’r newid yn yr hinsawdd a’i oblygiadau lleol a byd-eang. Mae’n darparu diffiniadau allweddol, gan gyflwyno’r cyd-destun polisi byd-eang a llwybrau tuag at garbon sero-net. Mae’r cwrs hwn yn agored i unrhyw un sy’n gweithio yn y maes seilwaith neu’r amgylchedd adeiledig ac sy’n frwd dros gynaliadwyedd.
Adnoddau ar gyfer busnesau sy’n gweithredu yn yr Alban
Mae’r Canllaw Ôl-osod Adeiladau Traddodiadol ac Effeithlonrwydd Ynni a baratowyd gan Historic Environment Scotland (Dolen allanol - Yn agor mewn tab neu ffenestr newydd), yn disgrifio mesurau ôl-osod y gellir eu defnyddio i wella effeithlonrwydd ynni adeiladau traddodiadol, gan gynnal cymaint â phosibl o’u ffabrig hanesyddol a chreu amgylcheddau dan do iach. Mae’r canllaw hefyd yn edrych ar gydnawsedd â’r ffabrig presennol, cydymffurfiad â safonau adeiladu a’r broses gynllunio.
Mae’r matrics sgiliau gosod (Dolen allanol - Yn agor mewn tab neu ffenestr newydd), a ddatblygwyd gan gyrff sgiliau’r sector, y diwydiant a rhanddeiliaid allweddol yn yr Alban wedi cael ei fabwysiadu a’i integreiddio’n llawn i safonau gosodwr Manyleb sydd ar gael i’r Cyhoedd (PAS) y Sefydliad Safonau Prydeinig (BSI) 2030 a safonau gosodwr y Cynllun Tystysgrifau Microgynhyrchu (MCS) i adlewyrchu anghenion sgiliau’r Alban.
Mae Cynllun Gweithredu Sgiliau Argyfwng yr Hinsawdd Skills Development Scotland 2020 – 2025 (PDF, 2.4MB) (Dolen allanol - Yn agor mewn tab neu ffenestr newydd) yn canolbwyntio ar gamau gweithredu i’w cymryd ar unwaith i gefnogi’r gwaith o ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i fynd i’r afael â her y newid yn yr hinsawdd a chamau gweithredu tymor hwy a fydd yn caniatáu i’r system sgiliau ymateb yn fwy effeithiol i’r Cynllun Gweithredu Sgiliau Argyfwng yr Hinsawdd fel dogfen ymatebol sydd yn esblygu.
Adnoddau ar gyfer busnesau sy’n gweithredu yng Nghymru
Gweithio Gyda’n Gilydd i Gyrraedd Sero-Net (PDF, 2.3MB) (Dolen allanol - Yn agor mewn tab neu ffenestr newydd) yw cynllun trosfwaol Llywodraeth Cymru i gyrraedd Sero-Net ar draws pob diwydiant a sector. Mae’n cynnwys uchelgeisiau sy’n benodol i sgiliau mewn rhai adrannau.
Mae Rhaglen Ôl-osod wedi’i Hoptimeiddio (Dolen allanol - Yn agor mewn tab neu ffenestr newydd), wedi’i chynhyrchu gan Llywodraeth Cymru yn rhoi manylion y cymwysterau sydd ar gael mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau allweddol i gyflawni Rhaglen Ôl-osod wedi’i Optimeiddio Llywodraeth Cymru. Gall cyflogwyr ei ddefnyddio i’w helpu i ddeall y cyd-destun hyfforddiant yn well ac unrhyw fylchau posibl mewn sgiliau yn eu busnes.
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth