Hanes
Hanes CITB, o'i sefydlu ym 1964, cerrig milltir allweddol, hyd heddiw ac wrth edrych ymlaen at y dyfodol.
Sefydlwyd Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB) ar 21 Gorffennaf 1964 i adeiladu diwydiant adeiladu diogel, proffesiynol a chymwy llawn.
Roedd yn un o 21 bwrdd hyfforddi diwydiannol a sefydlwyd yn sgil Deddf Hyfforddiant Diwydiannol 1964, yn bennaf i fynd i’r afael â phryderon ynghylch prinder sgiliau yn y DU.
Derbyniodd CITB, fel y byrddau hyfforddi diwydiannol eraill, bwerau arbennig i gasglu lefi gan gwmnïau preifat yn ei sector, y gallai ei ailddosbarthu mewn grantiau, cronfeydd a chymorthdaliadau ar gyfer hyfforddiant yn unol â'r safonau a osododd hefyd. Yn y modd hwn, roedd cyflogwyr yn rhannu cost hyfforddiant yn decach, tra bod y gweithlu'n cael sgiliau trosglwyddadwy cydnabyddedig.
Dros y blynyddoedd, mae sut mae CITB yn casglu ac yn rheoli'r cyllid hwn wedi datblygu. Newidiodd Deddf Hyfforddiant Diwydiannol 1982, er enghraifft, y system yn fawr, gan ddisodli'r mwyafrif o fyrddau hyfforddi diwydiannol â chyrff gwirfoddol a arweinir gan gyflogwyr nad oedd ganddynt bwerau codi lefi statudol mwyach.
Ym 1989, fodd bynnag, gwnaeth cyflogwyr y diwydiant adeiladu achos cryf y dylai CITB barhau â'r system Lefi. Dywedon nhw fod dibyniaeth y sector ar weithlu symudol iawn, defnyddio is-gontractwyr cwmnïau bach a llafur tymor byr yn gwneud y system grant lefi'n hanfodol ar gyfer darparu hyfforddiant o safon. Cytunodd y llywodraeth.
O ganlyniad, CITB yw un o'r ychydig fyrddau hyfforddi diwydiannol sydd ar ôl sydd â phwerau codi lefi statudol. Ond nid ydym byth yn cymryd hyn yn ganiataol - bob tair blynedd mae'n rhaid i ni ddangos i'r llywodraeth bod y diwydiant y tu ôl i ni o hyd, mewn proses o'r enw Consensws.
Fel corff cyhoeddus an-adrannol gweithredol, ni sydd â gofal am ein cyllideb a'n gweithgareddau, ond fe'n noddir gan adran o'r llywodraeth ac rydym yn atebol i weinidogion ac yn y pen draw, y Senedd.
Am nifer o flynyddoedd, fe wnaeth yr Adran Masnach a Diwydiant ein noddi, ac yna ei olynwyr: yr Adran Addysg a Sgiliau; yr Adran Arloesi, Prifysgolion a Sgiliau; a'r Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau. Yn 2016, yr Adran Addysg oedd ein noddwyr.
Yn ystod y cyfnod hwn rydym wedi cael newid enw neu ddau ein hunain, yn fwyaf arbennig yn 2003, pan gyfarwyddodd yr Adran Addysg a Sgiliau ni i newid i CITB-ConstructionSkills, i gydnabod ein partneriaeth â'r Cyngor Sgiliau Sector.
Am gyfnod, cawsom ein galw hefyd yn ConstructionSkills, neu CSkills, yn enwedig ar gyfer y rhannau o'n sefydliad sy'n darparu hyfforddiant. Yn 2013, fe benderfynon ni gadw at ein henw gwreiddiol, CITB, gan mai dyma'r enw a oedd yn cael ei gydnabod fwyaf gan ddiwydiant o hyd.
Fe wnaethom ni agor ein canolfan hyfforddiant gyntaf yn Bircham Newton, Norfolk, ym 1966, mewn hen faes awyr y Llu Awyr Brenhinol. Roedd yr awyrendy mawr yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer dysgu crefftau fel sgaffaldiau.
Yna gwnaethom agor canolfannau hyfforddiant eraill yn Glasgow, Birmingham, Llundain, Swydd Derby a Chaint, a ffurfiodd gyda'i gilydd y Coleg Adeiladu Cenedlaethol. Fe wnaethom hefyd gynnig hyfforddiant mewn 40 o leoliadau eraill ledled y wlad.
Yn 2017, yn dilyn adolygiad gan y llywodraeth, fe benderfynon ni wneud ein gweithrediadau yn symlach fel ein bod, mewn blynyddoedd i ddod, mewn gwell sefyllfa i ddarparu'r sgiliau sydd eu hangen ar ddiwydiant. Er enghraifft, ni fyddem yn hyfforddi pobl ein hunain mwyach, ac ar ôl dros 50 mlynedd yn Bircham Newton, rydym yn symud ein pencadlys i Peterborough.
Mae'n newid mawr i ni, ond rydyn ni'n gweld dyfodol disglair o'n blaenau ar gyfer CITB modern, cysylltiedig a fydd yn parhau i helpu'r diwydiant adeiladu i adeiladu Prydain well.
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth