Polisi diogelu
Mae CITB wedi ymrwymo'n gryf i ddiogelu pob unigolyn ifanc, oedolyn sy'n dysgu a staff rhag niwed, cam-drin a bwlio / aflonyddu.
Cred CITB fod gan bob dysgwr yr hawl i ddatblygu i'w lawn botensial. Felly, rydym yn cymryd ein rôl o ddifrif, wrth hybu iechyd a lles ein dysgwyr.
Er bod gofynion cyfreithiol penodol yn ymwneud â lles a diogelu pobl fregus, mae CITB wedi ymrwymo'n gryf i ddiogelu pob unigolyn ifanc, oedolyn sy'n dysgu a staff rhag niwed, cam-drin a bwlio / aflonyddu y tu hwnt i gydymffurfiad cyfreithiol. Felly byddwn yn mynd ati i hybu lles pawb ac yn sicrhau bod hyn yn ganolog i'n harferion cynllunio, gwneud penderfyniadau ac arfer o ddydd i ddydd.
Cyfrifoldeb yr holl reolwyr a'r rhai sy'n gyfrifol am ddarpariaeth is-gontract yw sicrhau bod y staff yn eu timau, partneriaid neu unigolyn sy'n cynrychioli neu'n ymgymryd â gweithgareddau ar ran CITB, ar ôl dod i gysylltiad â dysgwyr, yn cael, yn deall ac yn cydymffurfio â'r polisi hwn a'r holl weithdrefnau neu gyfarwyddiadau ategol.
Er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni ein cyfrifoldebau diogelu a lles, byddwn yn:
- Ymarfer gweithdrefnau recriwtio, dethol a fetio diogel sy'n cynnwys gwirio cymhwysedd ac addasrwydd staff priodol;
- Sicrhau amddiffyniad unigolion neu grwpiau rhag radicaliaeth rhag grwpiau terfysgol neu eithafwyr.
- Sicrhau bod asesiad risg ar gyfer diogelwch ac addasrwydd wedi'i gwblhau ar bob Cyflogwr a darparwr lleoliad gwaith
- Gweithio mewn partneriaeth â dysgwyr a chydag asiantaethau eraill i hyrwyddo amgylchedd dysgu diogel.
Byddwn yn ceisio diogelu pob dysgwr trwy:
- Eu gwerthfawrogi, gwrando arnynt a'u parchu a chymryd camau priodol lle bo angen;
- Darparu canllawiau diogelu trwy weithdrefnau ac yn unol â chod ymddygiad CITB ar gyfer staff;
- Hyrwyddo gwerthoedd sylfaenol Prydain (fel y'u diffinnir yn y Ddyletswydd Atal), gan gynnwys democratiaeth, a chydraddoldeb rheolaeth y gyfraith, rhyddid unigol, parch gan y naill at y llall a goddefgarwch y rhai sydd â gwahanol gredoau.
- Recriwtio staff yn ddiogel i ymgorffori canllawiau arfer gorau ar gyfer diogelu i gael ei gynnwys yn y broses recriwtio a dethol;
- Rhannu gwybodaeth am bryderon ag asiantaethau dynodedig a chynnwys dysgwyr a'u rhieni / gofalwyr yn briodol.
Bydd yr holl bolisïau a gweithdrefnau ar gael i unrhyw unigolyn perthnasol ar gais.
Mae polisi, gweithdrefnau a chyfarwyddiadau diogelu wedi'u gosod o fewn systemau rheoli a byddant yn cynnwys monitro a dadansoddi, adrodd ac argymhellion priodol ar gyfer gwelliant parhaus.
Rydym wedi ymrwymo i adolygu ein polisi a'n harfer bob blwyddyn o leiaf.
Cafodd y polisi hwn ei adolygu, ei gymeradwyo a'i drefnu gan y Prif Weithredwr Sarah Beale, CITB 30 Medi 2020.
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth