Polisi’r Iaith Gymraeg
Mae Cymru yn wlad ddwyieithog lle mae gwasanaethau ac adnoddau ar gael yn ddwyieithog i’r cyhoedd yng Nghymru.
Yn 2001, ymrwymodd CITB i Ddeddf yr Iaith Gymraeg (1993) drwy gynhyrchu Cynllun Iaith Gymraeg, a golygai hyn ymrwymo i ddarparu gwasanaeth Cymraeg a Saesneg yng Nghymru.
Nid yn unig y mae Cynllun Iaith Gymraeg CITB yn amlinellu sut y bydd y sefydliad yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth yng Nghymru, mae’r Cynllun hefyd yn hyrwyddo ac yn annog defnydd o’r iaith a fydd yn cael effaith gadarnhaol nid yn unig ar ein rhanddeiliaid Cymreig ond hefyd ar bobl Cymru. Bydd y Cynllun Iaith Gymraeg yn cyfrannu at Brosiect Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru ac yn bwydo i mewn i nod Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ‘Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu’.
Mae ein polisi yn adlewyrchu gofynion Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 a Mesur y Gymraeg 2011. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y Safonau hyn ar wefan Comisiynydd y Gymraeg.
Cafodd Cynllun Iaith CITB ei ddiweddaru a’i gymeradwyo gan Gomisiynydd y Gymraeg ym mis Medi 2022. O dan ddeddfwriaeth Mesur y Gymraeg 2011, bydd y Cynllun hwn yn y pen draw yn cael ei ddisodli gan Safonau’r Gymraeg sy’n gweithredu ar yr un egwyddor, er mwyn sicrhau dewis iaith rhagweithiol i gyflogwyr adeiladu a rhanddeiliaid CITB yng Nghymru. Hyd nes y daw'r Safonau hyn i rym, byddwn yn parhau i weithredu yn unol â'r Cynllun Iaith hwn.
Rydym wedi ymrwymo i welliant parhaus ac edrychwn ymlaen at rannu ein cynnydd gyda chi.
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth